top of page

Fy ngwers ioga cyntaf 'rioed fel 'Teenager'.

Nai fyth anghofio fy ngwers ioga cyntaf, yn 16 oed ac yn mynd oherwydd fod Mam wedi mynnu fod ioga 'yn dda' i mi...

'Rhywbeth i helpu gyda straen yr arholiadau' meddai...ok, es, i gadw hi'n hapus fwy na dim.

Fel pawb arall, oeddwn i yn gweld ioga fel ymarfer i 'bobl hynach' yn unig; i ymlacio, cael tawelwch ac arafu - yn bendant ddim rhywbeth oedd merch 16 oed oedd yn dewis gwneud yn ei hamser rhydd.

...'boring' oedd y gair oedd yn mynd trwy fy meddwl fel hogan yn ei arddegau....How wrong was i?





Oeddwn bach yn bryderus i gychwyn, ddim yn siŵr iawn beth i ddisgwyl. Y peth cyntaf oeddem ni yn dysgu oedd sut i anadl... Rhywbeth oeddwn yn wneud trwy'r dydd, pob dydd...pam oeddwn i angen rhywun arall ddweud wrtha i sut i anadl?

...heb ddeall, fod yna gymaint o ffurf wahanol, fwy effeithiol o anadl.


'Anadlu i mewn, mae'r bol yn mynd allan..anadlu allan, mae'r bol yn tynnu i mewn'
'Anadlu i mewn trwy’r trwyn, anadlu allan trwy'r geg'

....basically, yn hollol gyferbyn sut oeddwn i yn trin fy anadl fel arfer!


Yna, roeddem ni yn symud ymlaen i'r symudiadau ac yn dilyn arweiniad yr athrawes i wneud 'squat slow motion', yn eistedd yn ôl gan ddychmygu fod yna cadair yno... Pwy fysa meddwl fod gwneud 'squat' mor araf yn brifo gymaint?


Oeddwn o hyd yn un oedd yn hoffi cadw'n heini ac felly, wedi arfer wneud squats yn y gym ond, dim rhai felm'na! Ges i agored llygaid go iawn o sut i symud, sefyll a chryfhau yn y ffordd gywir a fwyaf effeithiol i'r corff.


'Dwi'n cofio meddwl...'Os wir rhaid i mi wneud hyn am 1 awr a hanner?!' gan edrych ar y watch yn meddwl am y cant a mil o bethau eraill, llawer 'fwy buddiol' fyswn i wedi gallu gwneud yn yr un amser fel; updatio'r 'facebook status', 'siarad ar MSN neu BBM fel yr oedd ar y pryd #throwback!



Ond, y gwirionedd oedd, doedd dim byd mwy buddiol na chael yr awr a hanner yn dysgu fwy am fy hun, fy anadlu, y corff a sut i'w drin yn gywir.






Fyswn i byth wedi meddwl pan oeddwn yn 16 oed, fy mod i yn eistedd yma 10 mlynedd wedyn yn ysgrifennu blog ar wefan ioga FY HUN yn trio cael yr hogan neu hogyn nesaf yn eu harddegau i roi cynnig ar ioga...rhywbeth sydd yn gallu newid eich meddylfryd am byth!


Felly, os mae eich mam neu tad yn 'dragio' chi i sesiwn ioga unrhyw bryd...EWCH ac efallai gewch chi hefyd, agored llygaid i ioga- ac efallai yn fwy 'na be oeddech yn disgwyl!


 

CAIFF PHOBL IFANC 13-18OED YMUNO AG UNRHYW SESIWN IOGA OEDOLION AM £2.5O YN UNIG!

ALL YOUNG ADULTS 13-18YRS ARE WELCOME TO JOIN ANY OF THE ADULTS SESSIONS FOR ONLY £2.50 EACH!


Dewch a'ch plentyn yn ei arddegau (13 oed ac yn fwy) i unrhyw sesiwn ioga oedolyn am hanner y pris!

Y gynharaf y byddwn yn cyflwyno ioga i bobl ifanc, y gorau'r cyfle sydd ganddynt i ddod i adnabod eu hunain, eu cyrff a’r ffyrdd gorau o gefnogi eu hiechyd a’u lles eu hunain.


Bring your teen (13yrs upwards) to any of the adult yoga sessions for half the adults price! The earlier we introduce yoga to young adults the better chance they have to get to know themselves, their bodies and the best ways to support their own health and wellbeing.




bottom of page