Class Schedule
Dec 11 - Dec 17
S
M
T
W
T
F
S
Pam Ioga?
Ydach chi erioed wedi bod eisiau symud eich corff ond, heb yr amynedd i fynd i’r gym na wneud ‘work-out’? Neu efallai bod ganoch boen corfforol neu feddyliol sydd yn nadu chi gwneud ymarfer corff?
Wel, IOGA yw’r ‘Best of Both Worlds’ - cewch gryfhau’r corff a'r meddwl drwy ystumiadau sydd yn darganfod eich ‘limits’ HEB y boen ‘na’r pwysau o wneud ‘work out’ rhy ddwys.
​
‘Dwi wedi bod yn ymarfer ioga ers blynyddoedd erbyn hyn a rwyf yn cofio yn iawn sut oedd fy meddyliau cychwynnol am yoga…’Boring!’.
OND, ‘dwi yma i newid hyn, mae fy nosbarthiadau ioga yn cynnig ystumiadau sydd yn sialensio’r corff a meddwl i gyrraedd lle nad ydych, efallai erioed, wedi cyrraedd o blaen. ‘Da ni yma i ddarganfod ble mae terfyn ei’n gorff eu hunain!
​
Yr un amser, byddwch yn dysgu fwy o hanes am Ioga, strategaethau newydd o anadlu, symudiadau cryf a chael gorffwys y meddwl~ Be well?
Amrywiaeth o ddosbarthiadau Ioga i weddu i bob oedolyn o bob gallu o ddechreuwyr i Ganolradd.
Gweithgareddau Ioga Syml a Hwyl i Blant ac Oedolion Ifanc trwy'r gymuned leol ac ysgolion.
Yoga 1-1/ grwpiau bach
Ioga wedi'i bersonoli ar gyfer unigolion neu grwpiau sy'n chwilio am sesiwn Ioga benodol.
Amdanaf i
Helo a Chroeso i'm tudalen Ioga!
​
Dwi’n eneth Ynys Môn sydd wedi fy magu, dysgu a chychwyn fy ngyrfa dysgu fel athrawes ar yr Ynys. Erbyn hyn, rwyf yn gweithio fel Athrawes Ysgol Gynradd yn cefnogi iechyd a lles plant yn bennaf trwy wersi Ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar.
​
Rwyf erioed wedi bod yn un i deithio, ac unwaith gorffennais y 6ed dosbarth oeddwn i ar yr awyren i weithio fel Achubwr Bywyd yng Ngwersyll America. Yn dilyn fy anturiaethau o amgylch America, roeddwn yn awyddus i deithio a phrofi mwy o wahanol ddiwylliannau. Nid oedd yn hir nes i mi gwblhau blwyddyn Ryngwladol yn astudio Addysg yn y Ffindir - Y tir sy'n rhoi blaenoriaeth i les dros unrhyw beth arall ac yn bennaf, y lle nes i ffeindio fy nghariad tuag at Ioga ond hefyd y cariad tuag at fy hun.
​
Ers hynny, rwyf wedi ymrwymo i ymarfer, rhannu ac ysbrydoli eraill i ddarganfod eu cariad tuag at Ioga ac arferion hunanofal.
​
Gobeithio fod y dudalen yma yn helpu chi ddarganfod eich cari(ad) tuag Iota fel y fi!
​
A pheidiwch ag anghofio mwynhau'r daith!
Cari Wyn x